The Clwyd East Welsh Liberal Democrats have chosen Alec Dauncey to stand for election to the House of Commons in the next General Election.
Alec has a strong connection with the constituency. His parents lived in Ruthin for more than thirty-five years, and his first job was as a Forest Worker in Clocaenog forest. Alec is an active professional forester who teaches at Bangor University and has worked in forestry and the environment all his working life.
He is proud to represent the Liberal Democrats in this new constituency, which has a strong and effective team of Liberal Democrat councillors on Flintshire and Denbighshire councils. Alec has been involved in Liberal politics since he was a teenager, and has stood for Westminster and the European Parliament.
Commenting on his selection, Alec Dauncey stated:
“I want to see a Fair Deal for people in Britain – so much has become broken and unfair.
We need to bring power closer to people. That means more local responses from councils and respecting and strengthening our Senedd, holding it to account on health, education agriculture and transport. Westminster politicians have no place interfering in that.
The UK government needs to get to grips with economic fairness and a greener, more innovative economy.
Well-being and security mean we should work together much more closely to rebuild our relations with our European Union allies and neighbours in an increasingly uncertain world. We need to get on with clear steps towards eventually rejoining the European Union.
I’m proud that the Liberal Democrats have stood up for the rule of international law in the face of Israel’s response to the appalling attacks of October 2023.”
Sign up
for email updates
Donate
to fuel our campaigns
Dwyrain Clwyd - Alec Dauncey
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Dwyrain Clwyd wedi dewis Alec Dauncey i sefyll i’w ethol i Dŷ’r Cyffredin yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae gan Alec gysylltiad cryf â’r etholaeth. Bu ei rieni’n byw yn Rhuthun am fwy na phymtheng mlynedd ar hugain, ac roedd ei swydd gyntaf fel Gweithiwr Coedwig yng nghoedwig Clocaenog. Mae Alec yn goedwigwr proffesiynol gweithredol sy’n dysgu ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi gweithio mewn coedwigaeth a’r amgylchedd ar hyd ei yrfa.
Y mae’n falch o gynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth newydd hon, sydd â thîm cryf ac effeithiol o gynghorwyr yn perthyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae Alec yn ymwneud â gwleidyddiaeth Ryddfrydol er ei arddegau, ac y mae wedi sefyll ar gyfer San Steffan a Senedd Ewrop.
Ac yntau’n sôn am gael ei ddethol, dywedodd Alec Dauncey:
“Rwyf am weld Bargen Deg i bobl ym Mhrydain – mae cymaint sydd wedi torri ac wedi mynd yn annheg.
Mae angen inni ddod â grym yn nes at bobl. Mae hynny’n golygu cynghorau mwy lleol ac ymatebol a pharchu ac atgyfnerthu ein Senedd, gan ei dal yn atebol ar iechyd, addysg, amaeth a thrafnidiaeth. Nid oes lle i wleidyddion yn San Steffan fod yn ymyrryd yn hynny.
Mae eisiau i lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â thegwch economaidd ac economi wyrddach, fwy dyfeisgar.
Mae lles a diogelwch yn golygu y dylem gydweithio’n llawer nes i ailadeiladu’n cydberthynasau â’n cynghreiriaid a’n cymdogion yn yr Undeb Ewropeaidd mewn byd sy’n gynyddol ansicr. Mae eisiau inni fwrw ymlaen â chamau eglur tuag at ailymuno yn y pen draw â’r Undeb Ewropeaidd.
Rwyf yn ymfalchïo bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi sefyll o blaid trefn cyfraith ryngwladol yn wyneb ymateb Israel i weithredoedd echrydus Hamas ym mis Hydref 2023.”